Local people grow wetland plants to restore River Irfon catchment’s freshwater habitats
10th February 2025
More than 100 people living in and around Llanwrtyd Wells will be growing wetland plants this spring to help restore freshwater habitats across the River Irfon catchment in mid-Wales.
Run by wildlife conservation charity Freshwater Habitats Trust, the GroWet initiative is a first for Wales and enables people to grow freshwater plants at home or in community centres, before they are introduced to suitable wild places in the summer. Volunteers are given seeds to germinate at home and will look after the plants in greenhouses or on windowsills until they are big and strong enough to be planted out.
A locally-based team from Freshwater Habitats Trust ran a seed collection day at the Pavillion in Dolwen Fields, Llanwrtyd Wells, on 13th January, which attracted local people keen to get involved in GroWet. Other volunteers, including the Irfon Valley Growers and the local gardening club, have now signed up to help restore their local wetland and freshwater habitats. Care homes, day centres and schools from the surrounding area have also expressed an interest in taking part.
The plants – Great Burnet, Ragged Robin, and Devil’s-bit Scabious – are all native to the Irfon catchment. A vital part of Britain’s freshwater biodiversity, these three species have declined due to pollution and changes in land use. Seeds were sustainably collected from the local area by Freshwater Habitats Trust and volunteers last summer.
Freshwater Habitats Trust will keep in touch with the volunteer growers over the coming months to provide support, and to arrange the final collection of the mature seedlings. Some of the plants will then be planted in the ponds and wetlands that Freshwater Habitats Trust has recently created with partners and landowners, while others will be used to help restore floodplain meadows.
GroWet started in 2022, but this is the first time it has been run in Wales.
Kirsty Allwood of Freshwater Habitats Trust’s River Irfon Catchment Project team organised the seed collection day. She said: “The local community has been so supportive of our efforts to restore freshwater habitats across the Irfon catchment, with everyone from local farmers to schools helping to improve the freshwater environment. It’s been fantastic to see such a positive response to GroWet and we’re really looking forward to finding out how people get on with growing their plants and then working with landowners to introduce them to local habitats.
“We’re really excited to be running GroWet in the Irfon catchment and are so grateful to everyone who’s already signed up to volunteer. This is such an easy way to make a difference and anyone can get involved – it’s not too late to sign up and you don’t need to be especially green-fingered!”
Nerys Mellor of Freshwater Habitats Trust added: “It was great to chat to people at the seed collection day. Some were collecting seed packs as a fun activity to do with their children, others were interested in having an exciting gardening challenge and the opportunity to grow something different. I think everyone who has signed up is keen to do something practical that could have a positive impact on nature in their local environment.
“We’d also like to thank the Pavillion in Dolwen Fields Llanwrtyd Wells for allowing us to host the Seed Collection Day and the volunteers who helped us collect wild, local seeds throughout the summer months.”
Volunteers can still sign up for GroWet and other volunteer opportunities in the Irfon catchment, including water quality testing and lowland fen and floodplain restoration. Anyone who wants to get involved can email Kirsty Allwood to arrange the collection of a seed pack at a date and location that suits them or to find out more about future volunteer activities.
Freshwater Habitats Trust has been working in the Irfon catchment, which stretches from Abergwesyn to Builth Wells, since 2020. GroWet is part of the River Irfon Catchment Project, which is supported by the Nature Networks fund and is being delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.
Freshwater Habitats Trust CEO Professor Jeremy Biggs said: “Freshwaters have never faced greater threats, but here in the Irfon catchment – which still has many clean water habitats and a wide range of endangered freshwater species – we have an opportunity to make a difference. To reverse the decline in freshwater biodiversity, we need to protect and restore the whole freshwater environment and, with the help of local people through initiatives like GroWet, we can make a real difference.”
Pobl leol yn tyfu planhigion gwlypdir er mwyn adfer cynefinoedd dŵr croyw yn nalgylch yr Afon Irfon
Bydd dros 100 o bobl sy’n byw yn Llanwrtyd a’r ardal yn tyfu planhigion gwlypdir y gwanwyn hwn er mwyn helpu i adfer cynefinoedd dŵr croyw ar draws dalgylch yr afon Irfon yng nghanolbarth Cymru.
Mae cynllun GroWet, sy’n cael ei redeg gan yr elusen gadwriaethol Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw (Freshwater Habitats Trust), yn torri tir newydd yng Nghymru ac yn galluogi pobl i dyfu planhigion dŵr croyw gartref neu mewn canolfannau cymunedol, cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i fannau gwyllt addas yn yr haf. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hadau i’w hegino gartref ac yn gofalu am y planhigion mewn tai gwydr neu ar silffoedd ffenest hyd nes eu bod yn ddigon mawr a chryf i gael eu plannu yn yr awyr agored.
Fe gynhaliodd tîm lleol o’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw ddiwrnod casglu hadau yn y Pafiliwn yng Nghaeau Dolwen, Llanwrtyd, ar y 13eg o Ionawr, gan ddenu pobl leol oedd yn awyddus i gymryd rhan yng nghynllun GroWet. Mae gwirfoddolwyr eraill, yn cynnwys Irfon Valley Growers a’r clwb garddio lleol, bellach wedi cofrestru er mwyn helpu i adfer eu cynefinoedd gwlypdir a dŵr croyw lleol. Mae cartrefi gofal, canolfannau dydd ac ysgolion lleol hefyd wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r cynllun.
Mae’r holl blanhigion – y llysyrlys, blodau’r brain, a’r clafrllys gwreidd-dan – yn gynhenid i dalgylch yr afon Irfon. Er eu bod yn rhan hanfodol o fioamrywiaeth dŵr croyw Prydain, gwelwyd gostyngiad yn y nifer o’r dair rhywogaeth hyn yn sgil llygredd a newidiadau i ddefnydd tir. Cafodd hadau eu casglu’n gynaliadwy o’r ardal leol gan yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw a gwirfoddolwyr yr haf diwethaf.
Bydd yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw yn cadw mewn cysylltiad â’r tyfwyr gwirfoddol dros y misoedd nesaf er mwyn cynnig cefnogaeth, ac i drefnu casglu’r eginblanhigion aeddfed. Yna, bydd rhai o’r planhigion yn cael eu plannu yn y pyllau dŵr a’r gwlypdiroedd a grëwyd yn ddiweddar gan yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw a phartneriaid a pherchenogion tir, tra bydd rhai eraill yn cael eu defnyddio i helpu adfer dolydd gorlifdir.
Sefydlwyd cynllun GroWet yn 2022, ond dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gynnal yng Nghymru.
Kirsty Allwood o dîm Prosiect Dalgylch Afon Irfon yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw oedd yn gyfrifol am drefnu’r diwrnod casglu hadau. Dywedodd: “Mae’r gymuned leol wedi bod mor gefnogol i’n hymdrechion i adfer cynefinoedd dŵr croyw ar draws dalgylch yr afon Irfon, gyda phawb o ffermwyr lleol i ysgolion yn helpu i wella’r amgylchedd dŵr croyw. Mae wedi bod yn wych gweld ymateb mor gadarnhaol i GroWet ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw i weld sut bydd pobl yn dod yn eu blaenau wrth dyfu eu planhigion a gweithio gyda pherchenogion tir i’w cyflwyno i gynefinoedd lleol.
“Rydyn ni wedi cyffroi’n lân o gynnal GroWet yn nalgylch yr afon Irfon ac ry’n ni’n hynod ddiolchgar i bawb sydd eisoes wedi cofrestru i wirfoddoli. Dyma ffordd hynod hawdd o wneud gwahaniaeth a gall unrhyw un gymryd rhan – dydy hi ddim yn rhy hwyr i gofrestru a does dim angen i chi fod yn giamstar yn yr ardd!”
Ychwanegodd Nerys Mellor o’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw: “Roedd hi’n wych medru sgwrsio â phobl yn ystod y diwrnod casglu hadau. Roedd rhai yn casglu pecynnau o hadau fel gweithgaredd hwyliog i’w wneud gyda’u plant, roedd eraill yn awyddus i ymwneud â her arddio gyffrous a’r cyfle i dyfu rhywbeth gwahanol. Dwi’n meddwl bod pawb sydd wedi cofrestru yn awyddus i wneud rhywbeth ymarferol a all gael effaith gadarnhaol ar fyd natur yn eu hamgylchedd leol.
“Carem ddiolch hefyd i’r Pafiliwn yn Nghaeau Dolwen, Llanwrtyd am adael i ni gynnal y Diwrnod Casglu Hadau a’r gwirfoddolwyr a’n helpodd ni i gasglu hadau gwyllt lleol gydol misoedd yr haf.”
Gall gwirfoddolwyr barhau i gofrestru ar gyfer GroWet a chyfleoedd gwirfoddoli eraill yn nalgylch yr afon Irfon, yn cynnwys profi ansawdd dŵr a gwaith adfer corstiroedd iseldir a gorlifdiroedd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb e-bostio Kirsty Allwood i drefnu casglu pecyn o hadau ar ddyddiad ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw, neu i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli yn y dyfodol.
Bu’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw yn gweithio yn nalgylch yr afon Irfon, sy’n ymestyn o Abergwesyn i Lanfair-ym-Muallt, ers 2020. Mae GroWet yn rhan o Brosiect Dalgylch yr Afon Irfon, a gefnogir gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur ac a gynhelir gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywed Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw, Yr Athro Jeremy Biggs: “Dydy dyfroedd croyw erioed wedi wynebu cymaint o fygythiad, ond yma yn nalgylch yr afon Irfon – sy’n parhau’n gartref i nifer o gynefinoedd dŵr glân ac ystod eang o rywogaethau dŵr croyw o dan fygythiad – mae gennym gyfle i wneud gwahaniaeth. Er mwyn gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth dŵr croyw, mae angen i ni warchod ac adfer yr holl amgylchedd dŵr croyw a, gyda chymorth pobl leol trwy gynlluniau fel GroWet, gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr.”