Bringing back biodiversity: how a family in mid-Wales is protecting land for nature

2nd July 2025

Concerned by the lack of diverse habitat and wildlife in Llanafan Fawr, mid-Wales, Gill Cathles purchased a piece of land near her home and set to work restoring it. Pen y Garreg is 30 acres of pasture, wetland, river, old hedgerows and broadleaf trees, and a much-needed place for nature to thrive.

Through our River Irfon Catchment Project, Gill has worked with Freshwater Habitats Trust to create new clean water ponds to boost biodiversity on the farm. Gill talks to Catherine Hughes, our River Irfon Engagement Officer, about her farm and what inspired her to take action for nature. 

Can you tell us a bit about your farm holding and how you got into farming?

Pen y Garreg is a beautiful piece of land, very close to our home in Llanafan Fawr, which unexpectedly came up for sale in the autumn of 2021. We were concerned that new owners might use it for commercial timber or tourism so decided to try to save it by buying it ourselves and restoring it. The land is about 30 acres and includes pasture, wetland, rivers, old hedgerows and broadleaf trees. For several decades, with an absentee landlord, it had been rented out to local farmers for sheep grazing.

What inspired you to take action for the local environment?

The UK is one of the most nature-depleted countries on Earth 

In this valley, we have lost the many small, mixed farms which existed up to the mid 19th century and the land is now used almost exclusively for grazing sheep, which has led, inevitably, to a uniformity in the landscape. There are very few trees on the hillsides and large areas are dominated by bracken and Molinia grass. In the valley bottoms, many of the old hedgelines exist only as remnants and existing solitary and hedgeline mature trees are coming to the end of their lives, with no young trees to replace them. Large numbers of mature trees are being lost in storms and as the result of ash dieback and Phytophthora ramorum 

The rivers have far less life in them than in the past. Climate breakdown means that there are more frequent and more severe storms, more flash flooding and longer periods of drought; all of which have an impact on the land.  

Becoming aware of these losses and challenges has inspired us to do all we can to protect and restore the land at Pen y Garreg and to increase biodiversity – more trees, more hedges, more insects, more flowers, more small mammals, more birds, more butterflies and moths, more life in the river. 

Can you tell us about the work that you have carried out on your farm through this project?

Part of our land runs alongside the River Chwefru – a tributary of the River Irfon – and is flat and wet for most of the year. Degraded rhos pasture, it is mainly unimproved grassland and soft rush, with willows, alder and aspen. We wanted to improve the biodiversity of the area and, in 2023/4, Freshwater Habitats Trust helped us develop the idea of turning it into a wetland, made up of a series of shallow wildlife ponds. Freshwater Habitats Trust organised the digging of test pits and the construction of two ponds and, this year, have agreed to help us design a further two or three ponds and scrapes in the remainder of the area.

Next, we are hoping to construct an inline pond alongside a stream and to protect water quality in the river by installing new water gates to prevent sheep from neighbouring farms accessing the river and our wetland. We would also like to restore an existing, overgrown pond on a different part of our land.

What have you learned as a result of getting involved in the River Irfon Catchment Project?

With neighbouring farmers focused on sheep, doing something different has left us feeling quite isolated and we have, from the start, really valued Freshwater Habitats Trust’s positive response to what we are trying to do with our land. 

We have also benefited hugely from the expertise of a range of specialists who have visited us as a direct or indirect result of our association with Freshwater Habitats Trust. Visits from the River Irfon Catchment Project team at Freshwater Habitats Trust have taught us about the wildlife already living in the ponds and what to look out for in the future.  

Having acquired a small number of cattle, we have also learned how they can benefit from and enhance the environment around the ponds through grazing. We have also learned a lot about the importance of ponds in the landscape and how to design them. 

What advice would you give to farmers who are considering getting involved in similar environmental projects?

I would strongly encourage farmers to make use of the expertise offered by Freshwater Habitats Trust and to construct ponds on their land if they have a suitable site. The process was very clear and simple and involved very little paperwork and the people working for Freshwater Habitats Trust are helpful, supportive and respectful of landowners’ own wishes and constraints. 

It is vital that we increase the biodiversity on land holdings in Wales and ponds are something that farmers can contribute with minimum effort, disruption and very little to no loss of existing grazing land. Wildlife ponds can be whatever size and shape you want them to be and, because they are shallow, need not involve large machinery or large quantities of spoil.  

What benefits do you hope to see on your land and beyond?

We hope our ponds will attract freshwater flora and fauna not found elsewhere in the local area and provide an important resource for existing insects and animals, giving them a more secure future. 

We hope that at least some of the ponds will hold water all year round, which will be important in very dry periods, when the rivers and streams are low. The ponds will undoubtedly increase the overall biodiversity of the whole holding, and we also hope they might inspire other local landowners to consider creating their own ponds. 

The work on Pen y Garreg is part of our River Irfon Catchment Project, which is funded by the Nature Networks Programme and delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government. 

Dod â bioamrywiaeth yn ei ôl: sut mae teulu yng nghanolbarth Cymru yn gwarchod tir ar gyfer byd natur

A hithau’n pryderu ynglŷn â’r diffyg amrywiaeth o ran cynefinoedd a bywyd gwyllt yn Llanafan Fawr, canolbarth Cymru, prynodd Gill Cathles ddarn o dir ger ei chartref a mynd ati i’w adfer. 30 erw o borfa, gwlyptir, afon, hen wrychoedd a choed llydanddail yw Pen y Garreg, ac mae dirfawr ei angen fel llecyn i natur ffynnu.

Trwy ein Prosiect Dalgylch Afon Irfon, mae Gill wedi gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw i greu pyllau dŵr glân newydd i hybu bioamrywiaeth ar y fferm. Bu Gill yn siarad â Catherine Hughes, ein Swyddog Ymgysylltu Afon Irfon, am ei fferm a’r hyn a’i hysbrydolodd i weithredu dros fyd natur.

Allwch chi sôn rhywfaint wrthon ni am eich fferm a sut y dechreuoch chi ffermio?

Mae Pen y Garreg yn ddarn prydferth o dir, sy’n agos iawn at ein cartref yn Llanafan Fawr, a ddaeth ar y farchnad yn annisgwyl yn hydref 2021. Roeddem yn bryderus y gallai perchenogion newydd ei ddefnyddio ar gyfer pren masnachol neu dwristiaeth, felly fe benderfynom ni geisio ei achub trwy ei brynu ein hunain a’i adfer. Mae’r tir tua 30 erw o ran maint ac yn cynnwys porfa, gwlyptir, afon, hen wrychoedd a choed llydanddail. Am sawl degawd, gyda landlord absennol, roedd wedi’i osod ar rent i ffermwyr lleol ar gyfer pori defaid.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i weithredu dros yr amgylchedd leol?

Y DU yw un o’r gwledydd mwyaf diffaith o ran natur ar y Ddaear.

Yn y dyffryn hwn, rydym wedi colli’r nifer o ffermydd cymysg bach a oedd yn bodoli hyd at ganol y 19eg ganrif a bellach defnyddir y tri bron yn gyfan gwbl ar gyfer pori defaid, sydd wedi arwain, yn anochel, at unffurfiaeth yn y tirlun. Ychydig iawn o goed sydd ar y llethrau ac mae ardaloedd mawr yn cael eu dominyddu gan redyn a gwellt y gweunydd. Yng ngwaelodion y dyffryn, mae llawer o’r hen wrychoedd ond yn bodoli fel olion ac mae’r coed aeddfed a’r gwrychoedd presennol yn dod at ddiwedd eu hoes, heb unrhyw goed ifanc i gymryd eu lle. Mae nifer fawr o goed aeddfed yn cael eu colli mewn stormydd ac o ganlyniad i glefyd coed ynn a Phytophthora ramorum.

Mae llai o fywyd yn yr afonydd nag oedd yn y gorffennol. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn golygu bod mwy o stormydd amlach a mwy difrifol, mwy o lifogydd sydyn a chyfnodau hirach o sychder; mae’r rhain i gyd yn cael effaith ar y tir.

Mae dod yn ymwybodol o’r colledion a’r heriau hyn wedi ein hysbrydoli i wneud popeth y gallwn i amddiffyn ac adfer y tir ym Mhen y Garreg a chynyddu bioamrywiaeth – mwy o goed, mwy o wrychoedd, mwy o bryfed, mwy o flodau, mwy o famaliaid bach, mwy o adar, mwy o bili palod a gwyfynod, mwy o fywyd yn yr afon.

Allwch chi sôn wrthon ni am y gwaith rydych chi wedi ei gyflawni ar eich fferm trwy’r prosiect hwn?

Mae rhan o’n tir yn rhedeg ochr yn ochr â’r Afon Chwefru – un o isafonydd yr Afon Irfon – ac mae’n wastad ac yn wlyb y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Mae’n rhostir diraddiedig sy’n cynnwys glaswelltir heb ei wella a brwyn meddal yn bennaf, yn ogystal â helyg, gwern ac aethnen. Roedden ni eisiau gwella bioamrywiaeth yr ardal ac, yn 2023/4, fe helpodd yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw ni i ddatblygu’r syniad o’i droi’n wlyptir, wedi’i wneud o gyfres o byllau bywyd gwyllt bas. Trefnodd yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw gloddio pyllau profi a chreu dau bwll, ac eleni maen nhw wedi cytuno i’n helpu i ddylunio dau neu dri phwll a phyllau tymhorol arall yng gweddill yr ardal.

Nesaf, rydym yn gobeithio adeiladu pwll mewn llinell ochr yn ochr â nant ac amddiffyn ansawdd dŵr yr afon trwy osod giatiau dŵr newydd i atal defaid o ffermydd cyfagos rhag cael mynediad i’r afon a’n gwlyptir. Hoffem hefyd adfer pwll sydd wedi tyfu’n wyllt sydd eisoes yn bodoli ar ran arall o’r tir.

Beth ydych chi wedi ei ddysgu o ganlyniad i fod yn rhan o Brosiect Dalgylch Afon Irfon?

Gyda ffermwyr cyfagos yn canolbwyntio ar ddefaid, mae gwneud rhywbeth gwahanol wedi ein gadael yn teimlo’n reit ynysig ac rydym wedi gwerthfawrogi ymateb cadarnhaol yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw o’r dechrau i’r hyn rydym yn ceisio’i wneud gyda’n tir.

Rydym hefyd wedi elwa’n fawr o arbenigedd ystod o arbenigwyr sydd wedi ymweld â ni o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i’n cysylltiad â’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw. Mae ymweliadau gan dîm Prosiect Dalgylch Afon Irfon o’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw wedi ein dysgu am y bywyd gwyllt sydd eisoes yn byw yn y pyllau a’r hyn y dylem gadw llygad amdano yn y dyfodol.

Ar ôl caffael nifer fach o wartheg, rydym hefyd wedi dysgu sut y gallant elwa o’r amgylchedd o amgylch y pyllau a’i wella trwy bori. Rydym hefyd wedi dysgu llawer am bwysigrwydd pyllau yn y tirlun a sut i’w dylunio.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ffermwyr sy’n ystyried dod yn rhan o brosiectau amgylcheddol tebyg?

Byddwn yn annog ffermwyr yn gryf i fanteisio ar yr arbenigedd a gynigir gan yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw ac i adeiladu pyllau ar eu tir os oes ganddynt safle addas. Roedd y broses yn glir ac yn syml iawn ac yn cynnwys ychydig iawn o waith papur ac mae’r bobl sy’n gweithio i’r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw yn gymwynasgar, yn gefnogol ac yn parchu dymuniadau a chyfyngiadau’r tirfeddianwyr eu hunain.

Mae’n hanfodol ein bod yn cynyddu’r bioamrywiaeth ar ddaliadau tir yng Nghymru ac mae pyllau yn rhywbeth y gall ffermwyr gyfrannu ag ychydig o ymdrech ac ymyrraeth a phrin unrhyw golled o ran tir pori sydd eisoes yn bodoli. Gall pyllau bywyd gwyllt fod pa bynnag faint a siâp y dymunwch iddynt fod ac, oherwydd eu bod yn fas, nid oes angen peiriannau mawr na llawer iawn o bridd.

Pa fuddion ydych chi’n gobeithio eu gweld ar eich tir a thu hwnt?

Rydym yn gobeithio y bydd ein pyllau yn denu fflora a ffawna dŵr croyw nad ydynt i’w cael yn unman arall yn yr ardal leol ac yn darparu adnodd pwysig i bryfed ac anifeiliaid sydd yno eisoes, gan roi dyfodol mwy diogel iddynt.

Rydym yn gobeithio y bydd o leiaf rhai o’r pyllau yn dal dŵr trwy gydol y flwyddyn, a fydd yn bwysig mewn cyfnodau sych iawn, pan fydd yr afonydd a’r nentydd yn isel. Bydd y pyllau yn ddi-os yn cynyddu bioamrywiaeth gyffredinol y fferm gyfan, ac rydym hefyd yn gobeithio y gallent ysbrydoli tirfeddianwyr lleol eraill i ystyried creu eu pyllau eu hunain.

Mae’r gwaith ar Ben y Garreg yn rhan o’n Prosiect Dalgylch Afon Irfon, a ariennir gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur ac a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.