How conservation walkovers help us protect and restore freshwaters

12th March 2026

In freshwater conservation, there’s often a lot of planning and work to do before the practical work can get started on the ground. Our Catchment Project Officer Siân Vincent shares what conservation walkovers involve and how they have helped us identify opportunities for nature recovery in the Irfon Catchment.

Can you tell us about the River Irfon Catchment and the work happening there? 

The River Irfon catchment in Mid-Wales is a Special Area of Conservation designated for its exceptional freshwater biodiversity. It supports one of the few remaining Welsh Freshwater Pearl Mussel populations but exposure to multiple pressures means the catchment is failing to meet Habitats Directive and Water Framework Directive targets. 

Through our River Irfon Catchment project, we’re working with local landowners and communities to improve water quality in the catchment.  

What are conservation walkovers and what do they involve?

Conservation walkovers allow us to understand the landscape in detail: how the catchment functions, how water flows through it, what habitats are present, and where there are opportunities for improvement. They also give us valuable insights into how the landowner manages their land and how nature recovery can be delivered alongside productive land use. 

Each walkover begins with a desk study. This includes researching the underlying geology, reviewing maps, and requesting boundary maps from the landowner to determine access and the extent of land to be covered.

Once on site, I aim to reach a high point first to gain an overview of the topography and identify key areas of interest. From there, I work my way downslope, often gravitating towards streams, areas of dense rush, and low-lying ground. A surprising amount of time is spent orientating myself by staring at maps and matching them to what I can see on the ground! 

I look for opportunities to create or restore freshwater habitats, such as improving existing ponds, identifying wet ground suitable for new wetland or scrape creation, re-wetting historic palaeochannels by reconnecting rivers to their floodplains, or removing land drains to restore springs. 

I also assess opportunities to improve riparian habitat along rivers. This might include adding woody material into the channel to create refuge for invertebrates, installing hinge dams and debris dams to raise the channel bed and increase flow diversity, or fencing rivers with a buffer to reduce grazing pressure and allow riparian flora to establish.  

Where possible, I carry out water quality testing and look for sources of sediment and nutrient pollution. This could include runoff from roads or farmyards, sediment entering streams from poached riverbanks, or vehicle tracks crossing watercourses. I then identify potential solutions, such as capturing rainwater from large farm building roofs before it flows across yards, creating bunded sediment traps, or recommending bridge installation or repair to prevent livestock and vehicle access to rivers.

How many sites and what types of habitats were assessed for the River Irfon Catchment Project?

I’ve undertaken 15 of the 40 walkovers that we have carried out across the Irfon catchment, focusing on areas that overlap with Important Freshwater Areas.

The aim is to build out from these remaining high-quality places that are home to the richest communities of sensitive and vulnerable plants and animals. Habitats at the sites visited for walkovers included rivers, streams, wetlands, wet grassland, wet woodland, rush pasture and fen.

Have there been any exciting findings so far?

Several areas of fen, a rare and valuable type of freshwater habitat, have been identified along river corridors, some of which have been surveyed by our plant ecologist, David Morris. These surveys have recorded high botanical value, including the presence of locally rare and specialist wetland species such as the Slender Sedge, Carex lasiocarpa, which has not yet been found anywhere else in the county.

What happens after the walkovers?

The next step is to discuss the potential ideas in more detail with the landowner, identifying which options are most feasible and best aligned with long-term land management goals. Botanical surveys would follow, to ensure no valuable habitats would be lost, and test pits would be dug to assess groundwater levels and geological suitability for any wetland creation.

Since undertaking the walkovers, we have been able to create and improve 20 ponds, three wetlands, five Sites of Special Scientific Interest (SSSIs) and two floodplain grasslands. We have also worked on fen management plans, river restoration projects and point source pollution projects.

What have you enjoyed most about the walkovers?

I grew up in Mid-Wales, so coming full circle and returning to assess the landscape and identify ways to preserve the place I lived for 17 years has felt incredibly rewarding and grounding.

I also love that my working day often involves walking through beautiful landscapes, getting plenty of exercise, and encountering wildlife such as a snipe flushing from the rushes.

The work is intellectually challenging too. Navigating unfamiliar places using maps and visual landmarks, spotting subtle details in the landscape, and developing practical, nature-based solutions keeps every walkover engaging and stimulating.

The River Irfon Catchment Project is funded by the Nature Networks Programme and delivered by the National Lottery Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.

Sut mae arolygon cadwraeth ar droed yn ein helpu i warchod ac adfer dŵr croyw

Mae arolygon cadwraeth ar droed yn rhan hanfodol o gadwraeth dŵr croyw, ac yn aml mae llawer o gynllunio a gwaith paratoi i’w wneud cyn i’r gwaith ymarferol ddechrau ar lawr gwlad. Mae ein Swyddog Prosiect Dalgylch, Siân Vincent, yn rhannu beth mae arolygon cadwraeth ar droed yn ei olygu a sut maent wedi ein helpu i adnabod cyfleoedd ar gyfer adfer natur yn Nalgylch yr Afon Irfon.

Allwch chi ddweud wrthym am Dalgylch yr Afon Irfon a’r gwaith sy’n digwydd yno?

Mae dalgylch Afon Irfon yng Nghanolbarth Cymru yn Ardal Gadwraeth Arbennig a ddynodwyd oherwydd ei bioamrywiaeth dŵr croyw eithriadol. Mae’n cynnal un o’r ychydig boblogaethau sy’n weddill yng Nghymru o’r Misglod Perlog Dŵr Croyw, ond yn sgil pwysau sylweddol mae’r dalgylch ar hyn o bryd yn methu â chyrraedd targedau’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Trwy ein prosiect Dalgylch Afon Irfon, ry’n ni’n gweithio gyda pherchenogion tir a chymunedau lleol i wella ansawdd dŵr yn y dalgylch.

Beth yw arolygon cadwraeth ar droed a beth maent yn ei olygu?

Mae arolygon cadwraeth ar droed yn ein galluogi i ddeall y dirwedd yn fanwl: sut mae’r dalgylch yn gweithredu, sut mae dŵr yn llifo drwyddo, pa gynefinoedd sy’n bresennol, a ble mae cyfleoedd i’w gwella. Maent hefyd yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i ni i sut mae’r perchennog tir yn rheoli’r tir, a sut y gellir sicrhau adferiad byd natur ochr yn ochr â defnydd tir cynhyrchiol.

Mae pob arolwg cadwraeth ar droed yn dechrau gyda gwaith desg. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i’r ddaeareg sylfaenol, adolygu mapiau, a gofyn am fapiau ffin gan y perchenogion tir er mwyn pennu mynediad a maint y tir i’w gwmpasu.

Ar ôl cyrraedd y safle, fy nod cyntaf yw cyrraedd man uchel i gael trosolwg o’r topograffeg ac adnabod prif ardaloedd o ddiddordeb. O’r fan honno, rwy’n gweithio fy ffordd i lawr y llethr, gan ddisgyn yn naturiol tuag at nentydd, ardaloedd o hesg drwchus, a thir isel. Treuliaf swm rhyfeddol o amser yn ceisio cyfeirio fy hun drwy syllu ar fapiau a’u cyfateb i’r hyn sy’n weladwy ar y ddaear!

Rwy’n chwilio am gyfleoedd i greu neu adfer cynefinoedd dŵr croyw, megis gwella pyllau presennol, adnabod tir gwlyb sy’n addas ar gyfer creu gwlyptir neu byllau dŵr tymhorol newydd, ail-wlychu hen balaiosianeli trwy ailgysylltu afonydd â’u gwlyptiroedd naturiol, neu dynnu draeniau tir i adfer ffynhonnau.

Rwyf hefyd yn asesu cyfleoedd i wella cynefinoedd glannau afonydd. Gall hyn gynnwys ychwanegu deunydd coediog i’r sianel i greu lloches i infertebratau, gosod argaeau colfachog ac argaeau malurion i godi gwely’r sianel ac i gynyddu amrywiaeth y llif, neu ffensio afonydd gyda bwffer i leihau pwysau pori a galluogi fflora’r glannau i sefydlu.

Lle bo’n bosibl, rwy’n cynnal profion ansawdd dŵr ac yn chwilio am ffynonellau llygredd gwaddodion a maetholion. Gall hyn gynnwys dŵr ffo o ffyrdd neu fuarthau ffermydd, gwaddodion sy’n cael mynediad i nentydd o lannau afonydd sydd wedi’u difrodi gan anifeiliaid, neu draciau cerbydau sy’n croesi cwrs dŵr. Yna rwy’n nodi atebion posibl, megis dal dŵr glaw o doeau adeiladau fferm mawr cyn iddo lifo ar draws yr iard, creu trapiau gwaddodion wedi’u byndio, neu argymell gosod neu atgyweirio pontydd i atal mynediad da byw a cherbydau i afonydd.

Sawl safle a pha fath o gynefinoedd gafodd eu hasesu ar gyfer Prosiect Dalgylch Afon Irfon?

Rydw i wedi cynnal 15 o’r arolygon ar droed sydd wedi eu cynnal genny mar draw dalgylch yr Afon Irfon, gan ganolbwyntio ar ardaloedd sy’n gorgyffwrdd ag Ardaloedd Dŵr Croyw o Bwys.

Y nod yw adeiladu allan o’r mannau o ansawdd uchel hyn sy’n weddill sy’n gartref i’r cymunedau cyfoethocaf o blanhigion ac anifeiliaid sensitif ac agored i niwed. Ymysg y cynefinoedd yn y lleoliadau lle cynhaliom yr arolygon ar droed roedd afonydd, nentydd, gwlyptiroedd, glaswelltir gwlyb, coetiroedd gwlyb, tir brwynog a mawnogydd.

Ydych chi wedi darganfod unrhyw beth cyffrous hyd yma felly?

Mae sawl ardal o fawnogydd — cynefin dŵr croyw prin a gwerthfawr — wedi’u nodi ar hyd coridorau afonydd. Mae rhai o’r safleoedd hyn wedi’u harolygu gan ein ecolegydd planhigion, David Morris, ac mae’r arolygon hyn wedi dangos gwerth botanegol uchel iawn. Yn arbennig, cofnodwyd nifer o rywogaethau gwlyptir arbenigol a phrin yn lleol, gan gynnwys yr hesgen fain (Carex lasiocarpa), nad yw wedi’i chanfod yn unman arall yn y sir hyd yma.

Beth sy’n digwydd ar ôl yr arolygon ar droed?

Y cam nesaf yw trafod y syniadau posibl yn fwy manwl gyda’r perchenogion tir, gan nodi pa opsiynau sydd fwyaf ymarferol ac sy’n cyd-fynd orau â nodau rheoli tir tymor hir. Bydd arolygon botanegol wedyn yn cael eu cynnal i sicrhau na chaiff unrhyw gynefinoedd gwerthfawr eu colli, a byddai tyllau prawf yn cael eu cloddio i asesu lefelau dŵr daear a pha mor addas yw’r ddaeareg ar gyfer creu gwlyptiroedd newydd.

Ers cynnal yr arolygon ar droed, rydym wedi gallu creu a gwella 20 o byllau, tair ardal wlyptir, pum Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a dwy ardal o laswelltir ar arlifdiroedd. Rydym hefyd wedi gweithio ar gynlluniau rheoli mawnogydd, prosiectau adfer afonydd a phrosiectau llygredd o ffynonellau penodol.

Beth ydych chi wedi ei fwynhau fwyaf am yr arolygon ar droed?

Cefais fy magu yng Nghanolbarth Cymru, felly mae dod yn ôl i asesu’r dirwedd ac adnabod ffyrdd o warchod y man lle bues i’n byw am 17 mlynedd wedi bod yn hynod werthfawr ac yn brofiad sy’n fy nghadw’n gysylltiedig â’r tir.

Rwyf hefyd yn mwynhau’r ffaith bod fy niwrnod gwaith yn aml yn cynnwys cerdded trwy dirweddau hardd, cael digon o ymarfer corff, a gweld bywyd gwyllt fel cyffylog yn codi o’r hesg.

Mae’r gwaith yn her ddeallusol hefyd. Mae canfon fy ffordd o amgylch llefydd anghyfarwydd gan ddefnyddio mapiau ac arwyddion gweledol, sylwi ar fanylion cynnil yn y dirwedd, a datblygu atebion ymarferol sy’n seiliedig ar natur yn gwneud pob arolwg ar droed yn ysgogol ac yn ddiddorol.

Mae Prosiect Dalgylch Afon Irfon yn cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur ac yn cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.