Nature lovers gather for Irfon farm and community day
22nd July 2025
Members of the local community gathered at a traditional hill farm in the River Irfon catchment in mid-Wales on 19th June to explore how farming and conservation can go hand in hand.
Hosted at Cwmdulas, Llanafan Fawr, by the Protheroe family, Freshwater Habitats Trust and the National Trust, the event featured hill farming demonstrations and displays about wildlife conservation and water quality.
Local farmer Gwyn Protheroe and his family invited the local community and organisations to see what happens on a traditional hill farm.
Freshwater Habitats Trust demonstrated how the organisation is carrying out regular water testing in the Irfon catchment, while the National Trust shared how it is restoring peatland.
Other displays included Upper Wye Restoration Team, NRW’s Freshwater Pearl Mussel project, South West and West Wales Wildlife Trust, Brecon County Moth recorder Norman Lowe, the Biodiversity Information Service, and Farming Connect. Moths captured overnight on the farm and invertebrates from the Dulas brook – which indicate good water quality – were also on display.
Local farmers demonstrated machine and hand shearing and answered questions about the challenges of farming on the open hill.
The event was part of Freshwater Habitats Trust’s River Irfon Catchment Project, which works with local farmers and landowners to reduce pollution and improve freshwater habitats for wildlife.
The Irfon catchment is a Special Area of Conservation, supporting exceptional freshwater biodiversity – including one of the few remaining UK Freshwater Pearl Mussel populations.
Geraint Watkins, Project Manager for the River Irfon Catchment Project said: “This event was a great opportunity to bring the local community together, including many of the farmers we’re working with. We’re very grateful to everyone who joined us and showcased their work.
“The Irfon catchment still has many clean water habitats and a wide range of freshwater species so we have a real opportunity to make a difference. The local farming and rural community plays a key role in this. Our focus is on working with landowners to restore and manage habitats and creating new ponds to bring clean water back to the Irfon catchment.”
- Cwmdulas Farm in the Irfon catchment.
The River Irfon Catchment Project is funded by the Nature Networks Programme and delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.
Carwyr natur yn ymgynnull ar gyfer diwrnod fferm a chymuned yr afon Irfon
Ymgasglodd aelodau o’r gymuned leol ar fferm fynydd draddodiadol yn nalgylch yr afon Irfon yng nghanolbarth Cymru ar Fehefin 19eg i archwilio sut gall ffermio a chadwraeth fynd law yn llaw.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghwmdulas, Llanafan Fawr, gan y teulu Protheroe, yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac roedd yn cynnwys arddangosiadau o ffermio bryniau ac arddangosfeydd am gadwraeth bywyd gwyllt ac ansawdd dŵr.
Gwahoddodd y ffermwr lleol Gwyn Protheroe a’i deulu y gymuned a sefydliadau lleol i weld beth sy’n digwydd ar fferm fynydd draddodiadol.
Dangosodd yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw sut mae’r sefydliad yn cynnal profion dŵr rheolaidd yng nghyffiniau’r afon Irfon, tra rhannodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wybodaeth am ei gwaith adfer mawndiroedd.
Ymysg yr arddangosfeydd eraill roedd Tîm Adfer Afon Gwy Uchaf, prosiect Misglod Perlog Dŵr Croyw Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De-orllewin a Gorllewin Cymru, cofnodwr gwyfynod Sir Frycheiniog Norman Lowe, y Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth, a Cyswllt Ffermio. Roedd gwyfynod a ddaliwyd dros nos ar y fferm ac infertebratau o nant Dulas – sy’n dangos ansawdd dŵr da – hefyd ar gael i’w gweld.
Bu ffermwyr lleol yn arddangos sut i dorri gwlân â pheiriant ac â llaw ac yn ateb cwestiynau am heriau ffermio ar dir mynyddig agored.
Roedd y digwyddiad yn rhan o Brosiect Dalgylch Afon Irfon yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw, sy’n gweithio gyda ffermwyr a pherchenogion tir lleol i leihau llygredd a gwella cynefinoedd dŵr croyw ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae dalgylch yr Irfon yn Ardal Gadwraeth Arbennig, sy’n cynnal bioamrywiaeth dŵr croyw eithriadol – gan gynnwys un o’r ychydig boblogaethau Misglod Perlog Dŵr Croyw sy’n weddill yn y DU.
Dywedodd Geraint Watkins, Rheolwr Prosiect Dalgylch Afon Irfon: “Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod â’r gymuned leol ynghyd, gan gynnwys llawer o’r ffermwyr rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a ymunodd â ni ac a ddangosodd eu gwaith.
“Mae dalgylch yr Irfon yn dal i gynnwys llawer o gynefinoedd dŵr glân ac amrywiaeth eang o rywogaethau dŵr croyw, felly mae gennym gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth. Mae’r gymuned ffermio a gwledig leol yn chwarae rhan allweddol yn hyn. Ein ffocws yw gweithio gyda pherchenogion tir i adfer a rheoli cynefinoedd ac i greu pyllau newydd i ddod â dŵr glân yn ôl i ddalgylch yr afon Irfon.”
Caiff Prosiect Dalgylch Afon Irfon ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur ac fe’i darperir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.